Mater - cyfarfodydd

Welsh Housing Quality Standards (WHQS) 2023

Cyfarfod: 10/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 62)

62 Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 a rhwymedigaethau’r Cyngor sy’n ymwneud â darparu’r safonau newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai, adroddiad i roi diweddariad am Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2 2023) newydd a rhwymedigaethau’r Cyngor sy’n ymwneud â darparu’r safonau newydd.  

 

Llwyddodd y Cyngor i gwblhau’r rhaglen waith SATC flaenorol fel bod holl stoc y Cyngor yn bodloni’r Safon, ac roedd y rhaglen bellach yn y cam cynnal a chadw o’r rhaglen, gan ddarparu gwaith buddsoddi pellach i’r cydrannau hynny o fewn eiddo lle bod angen.  O ganlyniad i’r safonau newydd, byddai gofyn i’r Cyngor ddiweddaru ei fanylebau, briffiau gwaith a rhaglenni gwaith er mwyn cydymffurfio a’r canllawiau newydd.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth y prif Safonau a nodwyd ar gyfer yr holl dai cymdeithasol fel a ganlyn:-

 

·         Mewn cyflwr da.

·         Bod yn saff a diogel.

·         Yn fforddiadwy i’w gwresogi a chael yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd.

·         Yn cynnwys ardal gyfleustodau a chegin fodern.

·         Yn cynnwys ystafell ymolchi fodern.

·         Yn gyfforddus ac yn hybu lles.

·         Yn cynnwys gardd addas ac

·         Yn cynnwys lle deniadol y tu allan.

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am themâu newydd SATC 2 a’r amserlen ar gyfer cyrraedd y safon, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer ei fod yn pryderu nad oedd wedi cael holiadur fel Deiliaid Contract a gofynnodd a fyddai SATC 2 yn welliant ar y gwaith a wnaed fel rhan o SATC.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr holiaduron yr oedd yn cyfeirio atynt yn ei gyflwyniad yn cyfeirio at yr holiaduron gwreiddiol a anfonwyd at Ddeiliaid Contract yn 2014.  Byddai holiaduron pellach yn cael eu hanfon fel rhan o’r broses ymgynghori ar gyfer SATC 2.  Dywedodd hefyd y byddai SATC 2 yn welliant ar safon SATC, yn benodol mannau agored cymunedol a mynediad. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Geoff Collett am ‘Sero Net’, eglurodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf beth oedd ystyr ‘Sero Net’ fel rhan o SATC 2, gan amlinellu bioamrywiaeth fel sbardun tuag at sero net a lleihau allyriadau carbon.  Eglurodd hefyd fod angen edrych ar bob man gwyrdd a mannau a allai gael eu defnyddio i helpu i hyrwyddo bywyd gwyllt. 

 

Soniodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y posibilrwydd i weithredu cynlluniau adfywio ar rai o’r ystadau a gofynnodd a fyddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r buddion i ardaloedd lle’r oedd nifer o eiddo’r Cyngor wedi’u prynu fel rhan o’r cynllun hawl i brynu.  Roedd y Rheolwr Gwasanaeth yn cytuno y byddai’n haws adfywio ardal lle’r oedd yr holl eiddo’r Cyngor yn dal i fod dan berchnogaeth y Cyngor a bod angen i’r Cyngor fod yn ofalus sut yr oedd arian y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei wario.  Dywedodd y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal gydag Aelodau a deiliaid contract wrth i’r Cyngor symud ymlaen â’i gynlluniau buddsoddi.  

 

Gan ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Pam Banks ynghylch difrod a achosir mewn eiddo, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod pob contractwr yn cael eu briffio ac y gofynnir iddynt ddarparu gofal priodol er mwyn diogelu eiddo rhag niwed diangen.  Gofynnodd yr  ...  view the full Cofnodion text for item 62