Mater - cyfarfodydd

Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA)

Cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet (eitem 90)

90 Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) pdf icon PDF 186 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) a Chyllideb y CRT arfaethedig ar gyfer 2024/25 i'w hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad oedd yn cyflwyno’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) drafft a’r Gyllideb CRT arfaethedig ar gyfer 2024/25.

 

Roedd y cyd-destun strategol ar gyfer gosod cyllideb CRT eleni yn cynnwys y canlynol:

 

·         Sicrhau bod fforddiadwyedd i’n tenantiaid yn greiddiol i’n hystyriaethau

·         Ymdrech barhaus i sicrhau bod holl gostau gwasanaeth yn effeithlon ac y gellir cyflawni gwerth am arian.

·         Sicrhau bod strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyfrif Refeniw Tai

·         Pennu cyllideb gytbwys gydag o leiaf 3% o refeniw dros ben dros wariant

·         Gwneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau’r benthyca sydd ei angen er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru

·         Darparu tai Cyngor newydd

·         Ymdrech barhaus i sicrhau bod cartrefi yn effeithlon o ran ynni ac yn archwilio datgarboneiddio

·         Darpariaeth o gyfalaf parhaus digonol i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai a'r adborth a gafwyd oedd y dylid rhewi'r ffi gwasanaeth ar gyfer erialau a adlewyrchwyd yn adroddiad y Cabinet ac argymhelliad (d), ac y dylai cronfa galedi gael ei sefydlu a adlewyrchwyd yn argymhelliad (e) yn yr adroddiad. Ychwanegodd mai cap rhent Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer tai cymdeithasol oedd 6.7%, ac yr oedd cynnydd arfaethedig Sir y Fflint yn 6.5%. Roedd y cynnydd yn rhent garejis hefyd yn is na chap LlC.

 

Mynegodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr angen i ganolbwyntio ar fforddiadwyedd. Roedd Safon Ansawdd Tai Cymru 2 newydd gael ei chyhoeddi a oedd yn cynnig lleihau allyriadau carbon o dai cymdeithasol ac wrth wneud hynny, cyfrannu at darged Cymru o Garbon Sero Net. Nid oedd cyllid gan LlC i gefnogi hynny felly yr oedd angen i'r Cyngor sicrhau y gallai'r CRT dalu am y gwaith hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25;

 

(b)       Cymeradwyo'r isafswm cynnydd rhent arfaethedig o 6.5%;

 

(c)        Cymeradwyo'r cynnydd o 6.5% yn rhent garejis;

 

(d)       Cymeradwyo'r cynnydd o ran taliadau gwasanaeth i adennill costau llawn ac eithrio ffioedd ar gyfer erialau a fydd yn cael eu rhewi hyd nes y bydd contract newydd yn cael ei drafod;

 

(e)       Y dylid ychwanegu at y gronfa caledi i denantiaid hyd at gap o £0.350 miliwn o unrhyw arian dros ben sydd wrth gefn a gynhyrchir yn ystod y flwyddyn, os oes angen; a

 

(f)        Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25.