Mater - cyfarfodydd

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-28

Cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet (eitem 91)

91 Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-28 pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 er cymeradwyaeth cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol yn ei gylch.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, yr adroddiad a oedd yn cyflwyno amcanion cydraddoldeb drafft y Cyngor a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 i’w cymeradwyo cyn ymgynghoriad ffurfiol.

 

Dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, yr oedd yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus datganoledig yng Nghymru

gyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol bob pedair blynedd.

 

Rhaid ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig wrth

osod amcanion cydraddoldeb a pharatoi ac adolygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Nod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol oedd lleihau anghydraddoldebau a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl â nodweddion gwarchodedig.

 

Rhaid cwblhau’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2024-28 a’i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.

 

Yr amcanion cydraddoldeb arfaethedig ar gyfer 2024-28 oedd:

 

·         Gwella canlyniadau iechyd, lles a gofal cymdeithasol gan gynnwys canlyniadau i bobl h?n a phobl anabl

·         Lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng grwpiau gwarchodedig a gweithredu strategaethau i wella lles

·         Sicrhau cyflog cyfartal yn y gweithle drwy gael strategaethau cyflog a graddio teg, agored a thryloyw ar waith

·         Gwella diogelwch personol ar gyfer pob gr?p gwarchodedig

·         Gwella mynediad at wasanaethau a gwneud penderfyniadau ar gyfer pob gr?p gwarchodedig

·         Gwella safonau byw pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig

·         Lleihau effaith tlodi a chynnwys dyletswydd economaidd-gymdeithasol yn y sefydliad

 

Byddai ymgynghoriad yn dechrau ym mis Ionawr am gyfnod o chwe wythnos ac ar ôl hynny byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a'r Cabinet.

 

Pan gafodd ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, nodwyd bod y cyfeiriad e-bost yn y ddogfen yn anghywir. Byddai hynny’n cael ei gywiro cyn i’r ymgynghoriad ddechrau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 yn cael ei gymeradwyo cyn ymgynghori’n ehangach â budd-ddeiliaid, aelodau’r cyhoedd, a gweithwyr; a

 

(b)       Bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i'w ystyried a'i adolygu.