Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25
Cyfarfod: 14/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 53)
53 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 PDF 75 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ddiweddaraf Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 cyn cael Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 53 PDF 138 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar y swm ychwanegol angenrheidiol i’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a chynnydd ar ddatrysiadau posib’ ar gyfer y gyllideb, cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Ers cyfarfod mis Tachwedd, roedd Datganiad yr Hydref wedi’i gyhoeddi gan y Canghellor gyda rhannau allweddol yn ymwneud â gostyngiadau i drethi sy’n effeithio ar unigolion a busnesau, a oedd yn golygu y byddai’n annhebygol bod unrhyw gyllid canlyniadol ychwanegol i Lywodraeth Leol i wella’r Setliad Dros Dro oedd i ddod gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar 20 Rhagfyr.
Roedd crynodeb o newidiadau i bwysau ers mis Medi wedi arwain at swm angenrheidiol ychwanegol diwygiedig i’r y gyllideb o 33.187m. Roedd cyfanswm o £22.097m o ddatrysiadau cyllidebol wedi’u canfod hyd yma, oedd yn gadael swm angenrheidiol ychwanegol o £11.090m i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2024/25. Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o risgiau parhaus oedd yn cael eu monitro’n ofalus ac opsiynau eraill ar gyfer y gyllideb oedd yn parhau i gael eu hystyried. Roedd gwaith brys ar fynd i ystyried gostyngiadau eraill i gostau er mwyn ceisio cau’r bwlch oedd yn weddill. Roedd y darlun cenedlaethol yn dangos bod pob awdurdod lleol yng Nghymru’n wynebu heriau ariannol sylweddol tebyg. Byddai’r Aelodau’n cael eu briffio ar ganlyniad y Setliad Dros Dro cyn y Nadolig.
Mynegodd y Cadeirydd bryder am raddfa gostyngiadau eraill i’r gyllideb yr oedd gofyn i’r portffolios ddod o hyd iddynt a dywedodd y dylai’r sefyllfa ddisgwyliedig a’r datrysiadau posib’ fod wedi’u cyfleu’n fwy eglur yn gynharach, yn enwedig o ystyried faint o herio fu mewn cyfarfodydd blaenorol. Aeth yn ei flaen i sôn am yr arweinyddiaeth wleidyddol gan holi a oedd sylwadau wedi’u cyflwyno i LlC ar bwysau oedd yn deillio o’r galw mawr parhaus ar wasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol a digartrefedd.
Yn ateb i’r ymholiadau, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad ar ostyngiad yn yr arbedion effeithlonrwydd o’r portffolio asedau a dywedodd fod y gostyngiad tebygol i gyllid oedd yn deillio o’r cynnydd i Gyllid Allanol Cyfun LlC yn seiliedig ar wybodaeth gychwynnol o’r Is-gr?p Dosrannu a bod y drafodaeth arno’n parhau. Rhoddwyd eglurhad hefyd ar fodelu Treth y Cyngor a dull darbodus yr arbediad ym mlwyddyn 2 o’r Adolygiad Actiwaraidd. O ran risgiau, eglurwyd bod disgwyl cadarnhad gan LlC ar gyllid ar gyfer y pwysau ynghlwm â chyfraniadau cyflogwyr at bensiwn athrawon.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r rhaglen drawsnewid strategol yn creu sefyllfa gyllidebol gynaliadwy at y dyfodol gyda ffrydiau gwaith yn canolbwyntio ar warchod sefyllfa ariannol y Cyngor, yn enwedig o ystyried lefelau’r arian wrth gefn sydd ar gael.
Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson gyd-destun o ran sefyllfa ariannol Sir y Fflint o gymharu ag awdurdodau eraill a rhoddodd sicrwydd bod sylwadau’n parhau i gael eu gwneud. Aeth yn ei flaen i sôn am ddefnyddio dull pwyllog ar gyfer proses y gyllideb i weithio drwy’r data oedd ar gael.
Wrth drafod y posibilrwydd o gysoni ffioedd maethu, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a oedd ffioedd y Cyngor yn is na’r ... view the full Cofnodion text for item 53