Mater - cyfarfodydd

Cofebion Peryglus ym Mynwentydd Sir y Fflint

Cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet (eitem 109)

109 Cofebion Peryglus ym Mynwentydd Sir y Fflint pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer dull amgen a pharhaol o wneud cofebion yn ddiogel os nad yw’r gofeb yn cael ei thrwsio gan berchennog cofrestredig y bedd, yn ogystal â thynnu ymylfeini sydd wedi torri neu eu gwneud nhw’n saff os ydynt mewn cyflwr gwael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd bod y gwasanaeth yn gyfrifol am tua 20,000 o gerrig beddi neu gofebion o amrywiaeth o siapiau a meintiau ac roedd yna ddyletswydd ar y Cyngor i gynnal a chadw’r tir claddu mewn cyflwr da a diogel.

 

Roedd cyfuniad o absenoldeb cofnodion a/neu absenoldeb aelodau o’r teulu oedd wedi goroesi ac yn fodlon ymgymryd â’r gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar gofebion wedi arwain at oddeutu 700 o gofebion o fewn mynwentydd Sir y Fflint yn cael eu hystyried yn anniogel yn strwythurol.   Er bod y cofebion hynny yn parhau i gael eu cefnogi gan bolion pren, roedd angen gweithredu datrysiad parhaol.   Yn ogystal â chofebau anniogel, roedd ymylfaen o fewn mynwentydd h?n y cyngor hefyd mewn cyflwr gwael, gan arwain at y posibilrwydd o berygl baglu.

 

Diben yr adroddiad oedd ceisio cefnogaeth a chymeradwyaeth ar gyfer dull amgen a pharhaol o wneud y cofebion yn ddiogel, os na fyddai’r gofeb yn cael ei atgyweirio gan y perchennog bedd cofrestredig, yn ogystal â gwneud unrhyw ymylfaen oedd yn rhydd o brif strwythur y bedd yn ddiogel. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnig i fabwysiadu y dull “tyllu i mewn” i sefydlogi’r cofebau hynny a ystyriwyd oedd yn anniogel yn strwythurol pan na ellir olrhain perchnogion y bedd yn cael ei gefnogi.    Bydd y dull hwn yn mynd i’r afael â risg iechyd a diogelwch parhaus sy’n gysylltiedig â chofebau anniogel sydd ond yn cael eu trwsio dros dro ar hyn o bryd; a

 

(b)       Bod y cynnig i fynd i’r afael ag ymylfaen anniogel drwy ailosod pob rhan o’r ymyl o fewn strwythur y bedd - naill ai uwchlaw neu islaw’r wyneb yn dibynnu a oes yna sylfaen slab concrid yn cael ei gefnogi.