Mater - cyfarfodydd
Rheoli Eiddo Gwag
Cyfarfod: 13/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 57)
57 Rheoli Eiddo Gwag PDF 102 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.
Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, gan gynnwys 40 o eiddo oedd wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Ymhelaethodd hefyd ynghylch y wybodaeth ganlynol yn y nodyn briffio:-
· Nifer y darnau mawr o eiddo gwag
· Cyfanswm y darnau o eiddo gwag a oedd wedi cynyddu ychydig i 235
· Perfformiad y contractwyr presennol
· Y prif resymau dros derfynu.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth oherwydd bod y cynllun gweithredu yn symud i’r cyfeiriad cywir, byddai’r tîm rheoli eiddo gwag nawr yn cwrdd pob chwarter yn hytrach na phob mis, a hefyd bod dyraniad y contractwr nawr wedi cynyddu i 65 eiddo gwag a byddai hyn yn parhau i gynyddu mis fesul mis.
Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn mynegi ei bryderon yngl?n â phobl mewn llety dros dro ddim yn cael cynnig yr eiddo gwag yn y fflatiau uchel, y Fflint. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod y llety yn y fflatiau uchel yn lety gwarchod dynodedig i bobl dros 55 oed. Hefyd, eglurodd nad oedd y proffil llety ar draws y Sir yn cwrdd ag anghenion y proffil o bobl mewn llety dros dro ac roedd dewisiadau i fynd i’r afael â hyn yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester pa gynlluniau oedd ar waith i hybu eiddo â galw isel amdanynt. Dywedodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio bod fideos o eiddo wedi eu darparu ac yn cefnogi’r awgrym gan y Cynghorydd Selvester bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i wella gwybodaeth a darparu fideos ar wefan y Cyngor.
Awgrymodd y Cadeirydd, oherwydd gwyliau’r Nadolig, bod y Pwyllgor yn derbyn y nodyn briffio rheoli eiddo gwag yn y cyfarfod mis Ionawr er gwybodaeth yn unig. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym hwn.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.