Mater - cyfarfodydd

Void Management

Cyfarfod: 13/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 57)

57 Rheoli Eiddo Gwag pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.

 

Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, gan gynnwys 40 o eiddo oedd wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu.  Ymhelaethodd hefyd ynghylch y wybodaeth ganlynol yn y nodyn briffio:-

 

·         Nifer y darnau mawr o eiddo gwag

·         Cyfanswm y darnau o eiddo gwag a oedd wedi cynyddu ychydig i 235

·         Perfformiad y contractwyr presennol

·         Y prif resymau dros derfynu.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth oherwydd bod y cynllun gweithredu yn symud i’r cyfeiriad cywir, byddai’r tîm rheoli eiddo gwag nawr yn cwrdd pob chwarter yn hytrach na phob mis, a hefyd bod dyraniad y contractwr nawr wedi cynyddu i 65 eiddo gwag a byddai hyn yn parhau i gynyddu mis fesul mis.   

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn mynegi ei bryderon yngl?n â phobl mewn llety dros dro ddim yn cael cynnig yr eiddo gwag yn y fflatiau uchel, y Fflint.    Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod y llety yn y fflatiau uchel yn lety gwarchod dynodedig i bobl dros 55 oed.  Hefyd, eglurodd nad oedd y proffil llety ar draws y Sir yn cwrdd ag anghenion y proffil o bobl mewn llety dros dro ac roedd dewisiadau i fynd i’r afael â hyn yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester pa gynlluniau oedd ar waith i hybu eiddo â galw isel amdanynt.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio bod fideos o eiddo wedi eu darparu ac yn cefnogi’r awgrym gan y Cynghorydd Selvester bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i wella gwybodaeth a darparu fideos ar wefan y Cyngor.   

 

Awgrymodd y Cadeirydd, oherwydd gwyliau’r Nadolig, bod y Pwyllgor yn derbyn y nodyn briffio rheoli eiddo gwag yn y cyfarfod mis Ionawr er gwybodaeth yn unig.    Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym hwn.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.