Mater - cyfarfodydd
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24
Cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet (eitem 93)
93 Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24 PDF 182 KB
Pwrpas: Cyflwyno drafft Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Treasury Management Mid-Year Review 2023/24, eitem 93 PDF 451 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24.
Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, yr oedd yr adroddiad wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 22 Tachwedd 2023 pryd yr ymatebodd swyddogion i gwestiynau gan fodloni’r Pwyllgor ac nid oedd unrhyw faterion penodol i’w dwyn i sylw’r Cabinet.
Argymhellwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 23 Ionawr 2024 i’w gymeradwyo’n derfynol.
PENDERFYNWYD:
Bod fersiwn drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24 yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar 23 Ionawr i'w gymeradwyo'n derfynol.