Mater - cyfarfodydd

Diwygio Treth y Cyngor – Ymgynghoriad Cam 2 Llywodraeth Cymru

Cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet (eitem 107)

107 Diwygio Treth y Cyngor – Ymgynghoriad Cam 2 Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 286 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ac ymateb argymelledig i’r Cabinet ar gyfer ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru ynghylch Diwygio Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru i’r Aelodau yn ceisio barn ar raglen barhaus diwygio treth y cyngor. Roedd cynigion cam 2 yn canolbwyntio ar:

 

·         Graddfa a chyflymdra diwygiadau bandio/ail-werthuso treth y cyngor posibl. 

·         Diwygio eithriad treth y cyngor Dosbarth F ar gyfer eiddo oedd yn

wag ble roedd y preswylydd blaenorol wedi marw ac nid oedd unrhyw warant profiant na llythyrau gweinyddu wedi eu cyflwyno. 

·         Eglurder am y termau a meini prawf priodol ar gyfer eithrio treth y cyngor

Dosbarth U ar gyfer aelwydydd ble roedd y meddiannydd wedi’i dystio i fod â salwch meddwl difrifol’.

 

Roedd y Rheolwr Refeniw a Chaffael wedi darparu manylion llawn ar gyfer y dewisiadau oedd ar gael. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Healey fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ble roeddent yn cefnogi’r fersiwn estynedig a’i weithredu gynted â phosibl.    Roedd yn symud newid i’r argymhelliad ar gyfer cefnogi’r fersiwn estynedig ond gyda dull graddol, oedd yn cael ei gefnogi. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cynigion Llywodraeth Cymru (cam 2) i ddiwygio Treth y Cyngor yn cael eu nodi, a bod uwch swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ymateb i’r ymgynghoriad i argymell y fersiwn estynedig a’i roi ar waith fesul cam.