Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 – 2026/27
Cyfarfod: 06/12/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 53)
53 Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 – 2026/27 PDF 146 KB
Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 i’w chymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Strategy Including Prudential Indicators 2024/25 – 2026/27, eitem 53 PDF 295 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 – 2026/27
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn cyflwyno'r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25–2026/27 i'w chymeradwyo.
Roedd yr adroddiad yn amlygu’r modd yr oedd y Rhaglen Gyfalaf yn cael ei datblygu a’i hariannu, yr effaith bosib’ ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’i pherthynas â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor. Ychydig iawn o newid oedd i'r Strategaeth Gyfalaf a gyflwynwyd y llynedd ar wahân i ddiweddariadau i Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25–2026/27.
Roedd Tabl 1 yn rhoi gwybodaeth am wariant arfaethedig y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y tair blynedd nesaf, Tabl 2 yn nodi sut y byddai'r gwariant hwn yn cael ei ariannu, a Thabl 8 yn rhoi trosolwg o sut roedd costau ariannu yn cymharu â'r gyllideb.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Bibby.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf; a
(b) Cymeradwyo’r canlynol:-
• Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25–2026/27 fel y manylir yn Nhablau 1, a 4-8 yn y Strategaeth Gyfalaf.
• Awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer dyled allanol a’r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).