Mater - cyfarfodydd

Sustainable Learning Communities update

Cyfarfod: 30/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 37)

37 Y Diweddaraf ar Gymunedau Cynaliadwy ar Gyfer Dysgu pdf icon PDF 116 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd a wnaed gyda rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Jennie Williams, yr Uwch Reolwr, (Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion) i'r pwyllgor ac amlinellodd y meysydd gwaith yr oedd hi'n ymdrin â nhw.

 

            Wrth gyflwyno'r adroddiad amlygodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion) y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, y cyfeiriwyd ati yn flaenorol fel y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.  Cyflwynwyd y diweddariad diwethaf i’r pwyllgor ym mis Chwefror 2022 ac roedd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed mewn nifer o feysydd ac yn cynnwys gwybodaeth am yr heriau a’r pwysau a oedd yn eu hwynebu.    Darparodd yr Uwch Reolwr wybodaeth am y cyllid grant a oedd ar gael a'r tîm bach a gafodd y dasg o gyflawni hyn.   Yna tynnodd sylw at rai pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar y Rhaglen Gofal Plant a safle Ysgol Croes Atti a fyddai’r ail ysgol ddi-garbon net a'r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf.   Darparwyd diweddariad ar Gampws 3 i 16 ym Mynydd Isa a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y tîm gwerth cymdeithasol rhagorol a'r effeithiau yr oedd yn eu cael o fewn y gymuned a'r rhwydwaith ysgolion ehangach.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod y portffolio wedi gweithredu'r cynigion statudol i gynyddu capasiti yn Drury a Phenyffordd a gwblhawyd ym mis Rhagfyr 2022 a bod cam nesaf yr estyniadau a'r adnewyddu wedi cychwyn.  Yna darparwyd gwybodaeth am y broses ymgysylltu ar gyfer Adolygiad Ardal Saltney a Brychdyn a oedd wedi'i chwblhau ac a fyddai'n cael ei chyflwyno i'r Cabinet.   Yna rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad ar y Grant Cyffredinol ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim Cynradd a oedd yn dod yn ei flaen yn dda ac roedd hyn wedi galluogi rhai newidiadau o ran adnoddau ac adnewyddu mewn ysgolion cynradd.   Gan gyfeirio at Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod cyllid grant cyfalaf o £2m wedi ei dderbyn a chadarnhawyd bod peth arian wedi ei neilltuo i’r Pwll Hydro a ddefnyddir gan yr Ysgolion Arbennig a dysgwyr eraill.   Roedd gwaith yn cael ei wneud i gynyddu'r capasiti ar gyfer dysgwyr yr oedd angen cymorth ADY arnynt.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod y gwasanaeth wedi defnyddio'r Grant Cyfleusterau Cymunedol a Grantiau Chwaraeon Cymru a oedd wedi galluogi i waith gael ei wneud ar safleoedd ysgolion i gefnogi mynediad cymunedol i'r cyfleusterau hynny.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Bill Crease at Adolygiad Ardal Saltney Brychdyn ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant a chododd nifer o gwestiynau ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus, yr arolwg cyflwr a chyllid ar gyfer cynnal a chadw’r ysgol.  Gofynnodd hefyd a oedd unrhyw Uwch Swyddogion neu Aelodau wedi mynychu'r ysgol eleni i weld beth oedd yn digwydd yno.

 

            Mewn ymateb, cydnabu'r Uwch Reolwr bod yr adolygiad hwn wedi cymryd peth amser i symud ymlaen gan fod amgylchiadau cymhleth o amgylch safle'r ysgol a llifogydd yn yr ardal hon.  Byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Cabinet a'r Pwyllgor ynghylch canlyniadau'r broses ymgysylltu.   Eglurodd ei bod hi a swyddogion eraill wedi ymweld  ...  view the full Cofnodion text for item 37