Mater - cyfarfodydd

Draft Strategic Equality Plan 2024-28

Cyfarfod: 14/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 54)

54 Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-28 pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Rhannu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ac amcanion cydraddoldeb gyda’r Pwyllgor ar gyfer ystyriaeth a sylwadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) Gynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024–28 ac amcanion cydraddoldeb i’w hystyried a gwneud sylwadau arnynt.  Ar ôl llawer o waith ymgysylltu gyda grwpiau lleol a budd-ddeiliaid, roedd y Cynllun i gael ei gymeradwyo gan y Cabinet er mwyn ei gyhoeddi mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd er mwyn cyrraedd y dyddiad cau i gyhoeddi ym mis Ebrill 2024.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am waith i gynnwys ymrwymiadau cydraddoldeb yn rhan o weithgareddau caffael.

 

Fel y nodwyd, byddai’r swyddogion yn newid y cyfeiriad e-bost corfforaethol oedd yn y ddogfen.  Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar newid y cyfeiriad e-bost, derbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024–28.