Mater - cyfarfodydd

Committee Sizes and Political Balance

Cyfarfod: 24/01/2024 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 25)

25 Adolygu Meintiau Pwyllgorau pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:  Ystyried gosod odrif o faint Pwyllgorau ac ail-gyfrifo Cydbwysedd Gwleidyddol i adlewyrchu'r meintiau newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y sylwadau a wnaed ynghylch maint pwyllgorau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Llawn y llynedd.  Darparwyd gwybodaeth am y gwaith a wnaed a chyfeiriwyd y pwyllgor at y tabl ym mharagraff 1.06 o'r adroddiad.  Amlinellodd y Prif Swyddog ei resymeg a’r anawsterau a gafodd yn ceisio sicrhau bod yr holl grwpiau’n cael eu cynrychioli.   Amlinellwyd cymhlethdodau cynyddu neu leihau nifer y seddau ar bwyllgorau, tra'n sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol.  Eglurwyd hefyd fod rhai pwyllgorau, megis y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pwyllgor Cynllunio a Safonau, wedi'u diystyru gan fod yr aelodaeth ar gyfer y rhain yn wahanol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge y byddai’n pleidleisio i hyn aros fel y mae.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson at yr enghraifft a gofynnodd tybed a fyddai o gymorth pe bai’r blaid Lafur yn colli un sedd ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai, yr oedd ganddi 6 sedd ar ei gyfer. Byddai wedyn yn ennill sedd ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, lle'r oedd gan y gr?p Llafur ddwy sedd a'r Gr?p Annibynnol 3.  Byddai hyn yn sicrhau nad oedd unrhyw newidiadau yn nyraniad y Gr?p Llafur, gan ddileu’r mwyafrif ar unrhyw bwyllgor. Byddai’r sedd ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai yn dod ar gael ar gyfer y gr?p hwnnw a fyddai’n colli sedd ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

            Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog fod hyn yn gyfreithlon ac na allai weld problem gydag o.  Os oedd yr Aelodau'n dymuno lleihau'r maint i 11 yna roedd yn hapus i ddechrau gweithio ar hyn.  Teimlai fod y drefn bresennol yn gweithio oherwydd y ffordd yr oedd aelodau'n dewis gweithredu'r rheolau, gyda seddau'n cael eu dyrannu i bobl oedd â diddordeb mewn gwaith pwyllgor penodol.  Dyna pam yr oedd yr Aelodau’n hapus gyda’r sefyllfa bresennol.  

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson ei fod yn teimlo bod y ffordd yr oedd y seddi'n cael eu dyfarnu ar gydbwysedd gwleidyddol yn gweithio'n dda, ac ni allai weld unrhyw reswm i newid y sefyllfa bresennol.

 

            Teimlai’r Cynghorydd Arnold Woolley hefyd nad oedd angen newid y system bresennol gan ei bod yn gweithio’n dda. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan y

Cynghorydd Paul Johnson

PENDERFYNWYD:

Bod meintiau pwyllgorau yn aros fel ag y maen nhw.