Mater - cyfarfodydd
Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgell AURA
Cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet (eitem 89)
Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Aura
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chodi materion i’w hystyried.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig wedi’i sefydlu yn 2017 i ddarparu prosiect, gyda’r nodau ac amcanion yn disgyn o fewn meini prawf cymhwyso ar gyfer cyllid grant gan y Cyngor.
Mae’r Cyngor wedi bod mewn trafodaeth gyda Aura ynghylch dewisiadau am gytundeb hirdymor newydd ac wedi comisiynu gwaith i helpu i ddeall a gwneud penderfyniadau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr egwyddorion lefel uchel o drefniant cytundebol newydd yn cael eu cefnogi a bod ffactorau eraill wedi’u nodi yn cael eu hystyried;
(b) Bod cynnig cyllido (yn ystod cynnydd chwyddiant) o 3.1% yn cael ei dalu i Aura ar gyfer 2024/25 yn cael ei gefnogi; a
(c) Cefnogi estyniad ymhellach i’r cytundeb cyllido presennol, am gyfnod o 12 mis, os na ellir cael cytundeb cynnar ar gyfer trefniant cytundebol newydd o Ebrill 2024 ac/neu fod yna lithriad pellach yn y gwaith rhagarweiniol.