Mater - cyfarfodydd

Cyfrinachol - Adroddiad ar yr Ymchwiliad i Honiadau Dienw a Dderbyniwyd

Cyfarfod: 22/11/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 48)

Cyfrinachol - Adroddiad ar yr Ymchwiliad i Honiadau Dienw a Dderbyniwyd

Darparu crynodeb i’r aelodau o’r ymchwiliad a gynhaliwyd ar ôl i ddau o’r Cynghorwyr dderbyn galwadau ffôn dienw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad ar ganlyniad ymchwiliad i honiadau dienw a dderbyniwyd gan ddau aelod etholedig.   Cynhaliwyd yr ymchwiliad yn unol â Pholisi Rhannu Pryderon a Gweithdrefn Adrodd ar Dwyll y Cyngor.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, dywedodd y swyddogion na welwyd unrhyw dystiolaeth o weithgarwch twyllodrus ac felly bod yr holiadau’n ddi-sail. Ni ellid cael mwy o wybodaeth gan fod y ffynhonnell wedi dewis parhau’n ddienw.

 

Yn dilyn cwestiwn ychwanegol, eglurwyd bod y swyddog oedd wedi cynnal yr ymchwiliad bellach wedi gadael y Cyngor. Cytunodd y swyddogion i ymateb ar wahân i gais am wybodaeth ychwanegol. 

 

Roedd yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio gan Sally Ellis a Brian Harvey, ac felly cafwyd pleidlais arnynt a chawsant eu derbyn. Gofynnodd y Cynghorwyr Bernie Attridge (yn erbyn) a Glyn Banks (ymatal) am i’w pleidleisiau gael eu cofnodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.