Mater - cyfarfodydd

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23 Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn

Cyfarfod: 22/11/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 40)

40 Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23 Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn pdf icon PDF 83 KB

Darparu diweddariad i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o'r cynnydd a wnaed yn erbyn rheoli'r materion a nodwyd o fewn Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar y meysydd i’w gwella a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23. Roedd dadansoddiad manwl o’r cynnydd yn erbyn y materion Llywodraethu a Strategol sylweddol a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ynghlwm i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg fod y pum mater Llywodraethu sylweddol yn dal ar agor fel y disgwyl ac y byddai’r cynnydd yn cael ei adlewyrchu yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023/24 ynghyd â’r Hunanasesiad Corfforaethol. Byddai cynnydd pellach ar y materion Strategol sylweddol yn rhan o’r diweddariad ar Reoli Risg fyddai’n cael ei rannu yn y cyfarfod nesaf.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad ar oblygiadau’r risgiau’n ymwneud â rhwymedigaethau strategol y Cyngor ar ddigartrefedd. Wrth dynnu sylw at y pwysau ariannol a’r heriau tai sylweddol yn genedlaethol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai ac Atal fod adroddiad diweddar i’r Cabinet wedi nodi dewisiadau ar gyfer lliniaru’r risgiau yn Sir y Fflint. Rhoddodd wybodaeth gefndir am y gostyngiad mewn cyllid grant a’r ddeddfwriaeth sydd ar y gweill i leihau digartrefedd. Byddai darganfyddiadau adolygiad diweddar ar atal digartrefedd gan Archwilio Cymru yn cael eu rhannu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cydnabu Sally Ellis y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyngor ar ddigartrefedd. Fel yr awgrymwyd, byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys colofn ychwanegol ar sgoriau risg targed a byddai effaith y matrics sgorio yn cael ei adlewyrchu yn y diweddariad Rheoli Risg nesaf. 

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud i leihau’r risgiau digartrefedd fel yr adroddwyd i’r Cabinet a Throsolwg a Chraffu.

 

Fel y gofynnwyd gan Brian Harvey, rhoddodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am ffrydiau gwaith amrywiol i helpu gyda’r heriau recriwtio parhaus.

 

Nododd y swyddogion yr awgrymiadau gan y Cynghorydd Glyn Banks am y trosolwg o’r dangosfwrdd i’r dyfodol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer a Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23.