Mater - cyfarfodydd
Gwaredu Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a Gynhyrchwyd 2022/23
Cyfarfod: 22/11/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 42)
42 Gwaredu Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a Gynhyrchwyd 2022/23 PDF 100 KB
Adrodd ar waredu asedau a chyfalaf a dderbyniwyd ac a gynhyrchwyd yn ystod 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Asset Disposals 2020/21 - 2022/23, eitem 42 PDF 16 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Gwaredu Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a Gynhyrchwyd 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad blynyddol a oedd yn crynhoi tir oedd wedi’i waredu a derbyniadau cyfalaf a gafwyd yn ystod 2022/23 a dangoswyd y data cymhariaeth â blynyddoedd blaenorol.
Fel y gofynnwyd gan y Cadeirydd, rhoddodd wybodaeth am drefniadau adrodd ar gyfer pennu gwaredu asedau.
Pan ofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am gyflawni’r gwerth gorau, soniodd y Prif Weithredwr am ystyried cyngor prisio annibynnol ar y cyd â gwasanaethau swyddogion prisio cymwys mewnol. Fel y gofynnwyd, byddai manylion y tir a waredwyd a grynhowyd yn yr atodiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor yn gyfrinachol.
Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Ted Palmer a Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.