Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Mid-year Review 2023/24 and Quarter 2 Update

Cyfarfod: 22/11/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 41)

41 Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24 a Diweddariad Chwarterol 2 pdf icon PDF 188 KB

Cyflwyno drafft o’r Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 1 Ebrill-30 Medi 2023 am sylwadau ac argymhelliad i’w gymeradwyo i’r Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad canol blwyddyn drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i’w argymell i'r Cabinet, ynghyd â diweddariad ar weithgareddau Chwarter 2 er gwybodaeth.

 

Adlewyrchodd crynodeb o’r prif feysydd effaith y newidiadau i gyfraddau llog ynghyd â gwybodaeth am fenthyca a rheoli dyledion yn ystod y cyfnod.   Rhoddodd y diweddariad chwarterol fanylion am y sefyllfa o ran buddsoddiadau ar ddiwedd mis Medi 2023, ynghyd â nodyn atgoffa am y sesiwn hyfforddiant gloywi blynyddol ar 8 Rhagfyr.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr incwm buddsoddi ychwanegol o ganlyniad i gyfraddau llog gwell oedd yn helpu i gefnogi sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor.   Wrth ymateb i gwestiwn am effaith yr heriau o ran adnoddau, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar y newidiadau yn y tîm Cyllid a dywedodd nad oedd risgiau uniongyrchol i’r swyddogaeth rheoli trysorlys.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Canol Blwyddyn drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 ac yn cadarnhau nad oes angen tynnu sylw’r Cabinet at unrhyw faterion yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.