Mater - cyfarfodydd
Dileu Ardrethi Busnes
Cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet (eitem 94)
94 Dileu Ardrethi Busnes PDF 98 KB
Pwrpas: Cabinet i gymeradwyo dileu drwgddyledion unigol ar gyfer Ardrethi Busnes dros £25,000.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod drwgddyledion dros £25,000 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cabinet gymeradwyo argymhellion i ddiddymu'r dyledion hynny.
Ystyriwyd bod dwy ddyled Trethi Busnes, sy’n gyfanswm o £118,266.44, yn rhai na ellir eu hadennill ac yr oedd diddymu’r dyledion yn awr yn gam angenrheidiol. Mae’r dyledion yn ymwneud â:
- PPA Engineering Group Ltd £92,489.86
- Gibbs (Steel Fabricators) Ltd £25,776.58
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diddymu dyledion ardrethi busnes, sy’n golygu £92,489 ar gyfer PPA Engineering Group Ltd a £25,776 ar gyfer Gibbs (Steel Fabricators) Ltd.