Mater - cyfarfodydd
Diweddariad ar yr Adolygiad o Rwystrau Mynediad
Cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet (eitem 113)
113 Diweddariad ar yr Adolygiad o Rwystrau Mynediad PDF 93 KB
Pwrpas: Cytuno ar gyflwyniad gwelliannau i fynediad ar Lwybr Arfordir Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Access barrier review - app 1, eitem 113 PDF 1 MB
- Access barrier review - app 2, eitem 113 PDF 190 KB
- Access barrier review - app 3, eitem 113 PDF 219 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar yr Adolygiad o Rwystrau Mynediad
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd fod Cyngor Sir y Fflint wedi penodi ymgynghorydd i gynnal adolygiad o’r mesurau rheoli mynediad presennol ar waith ar adran o Lwybr Arfordir Cymru (LlAC) rhwng Caer a Queensferry.
Roedd argymhellion o astudiaeth yr ymgynghorydd wedi eu trafod yn Sir y Fflint.
Fforwm Mynediad Lleol, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a’r Amgylchedd a’r Cabinet ym mis Gorffennaf 2023. Y penderfyniad yn y Cabinet oedd i gael adborth pellach gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid pan gafodd dyluniadau gweithredu eu sefydlu.
Roedd Cynllun a manyleb wedi eu llunio ar gyfer pwyntiau mynediad ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru o amgylch ardal pont droed Saltney ac anfonwyd allan ar gyfer adborth yn ystod mis Hydref.
Roedd crynodeb o ymatebion ynghlwm i’r adroddiad.
Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi wedi ystyried yr adborth ar 19 Rhagfyr ble roedd y cynigion wedi eu cefnogi gan y mwyafrif.
Roedd y dewis a gyflwynwyd yn amlygu’r cyfleoedd a’r risgiau i’r Awdurdod.
Roedd y Cynghorwyr Bibby a Jones yn croesawu’r adroddiad a’r gwelliannau arfaethedig a oedd yn darparu cyfaddawd pragmatig.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adborth ar y gwelliannau mynediad bwriedig a’r risgiau posibl i’r Awdurdod yn cael eu nodi; a
(b) Bod y gwelliannau bwriedig i’r pwyntiau mynediad fel y manylwyd yn y cynllun a’r fanyleb yn cael eu cymeradwyo.