Mater - cyfarfodydd

Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2023-24

Cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet (eitem 96)

96 Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2023-24 pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Rhannu Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor yn hanner cyntaf 2023-24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a’r diben oedd rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint. 

 

Roedd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon yn rhoi trosolwg o berfformiad blynyddol y Cyngor mewn cysylltiad â chwynion a gafwyd rhwng 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a gafwyd gan bob portffolio’r Cyngor rhwng 1 Ebrill – 30 Medi 2023.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyswllt Cwsmeriaid bod nifer y cwynion yn erbyn awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gostwng 11% yn 2022-23 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol a gwnaeth yr Ombwdsmon ymyrryd â 13% o gwynion, gostyngiad o 18% o’r flwyddyn flaenorol.

 

Roedd dolen i’r Llythyr Blynyddol yn manylu ar berfformiad a data cymharol Sir y Fflint ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd y paragraffau yn yr adroddiad yn rhoi crynodeb o berfformiad a chyd-destun ychwanegol mewn ymateb i'r canfyddiadau.

 

Nid oedd gan Matthew Harris, Pennaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion yn swyddfa’r Ombwdsmon unrhyw sylwadau penodol i’w gwneud a chyfeiriodd at y Cyngor yn cael ei ddewis i fod yn rhan o ail ymchwiliad ‘ar eu menter eu hunain’ ehangach yr Ombwdsmon sy’n ymchwilio i weinyddu asesiadau o anghenion gofalwyr. Cafodd manylion yr hyn y byddai'r ymchwiliad yn ei ystyried eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Rheolwr Cyswllt Cwsmeriaid y byddai'n egluro'r manylion yn yr atodiad y tu allan i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi perfformiad blynyddol y Cyngor mewn cysylltiad â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2022-23;

 

(b)       Nodi perfformiad hanner blwyddyn (2023-24) y Cyngor o ran cwynion a wnaed yn erbyn gwasanaethau yn unol â’r weithdrefn bryderon a chwynion; a

 

(c)        Cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.24.