Mater - cyfarfodydd

Corporate Debt Policy – Housing Rent Collection

Cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet (eitem 85)

85 Polisi Adennill Dyledion Corfforaethol – Rhenti Tai pdf icon PDF 140 KB

Pwrpas:        I’r Cabinet gymeradwyo newidiadau i’r Polisi Adennill Dyledion Corfforaethol i gryfhau trefniadau casglu rhenti tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby adroddiad a dywedodd bod adroddiad diweddar i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Thai wedi darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar weithredu’r broses o gasglu rhent tai, ynghyd â’r cynigion i wella casgliadau drwy gymryd achos llys yn gynt. 

 

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys y cynigion i ddiwygio Polisi Adfer Dyledion Corfforaethol ac i gryfhau’r broses adfer dyledion ar gyfer rhent tai.

 

Y newid allweddol oedd trothwy wedi’i ddogfennu ar gyfer cymryd achos llys yn erbyn y deiliad contract a oedd yn ddyledus o 12 wythnos o rent ac/neu £1,500 ac oedd ddim yn cyfathrebu â’r Cyngor.

 

Newidiadau bach eraill i’r Polisi Adfer Dyledion Corfforaethol oedd diddymu awdurdodiadau a fyddai’n efelychu newidiadau diweddar i’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol lle byddai gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ymreolaeth i ddiddymu dyledion sengl hyd at £10,000 (yn hytrach na £5,000).  Byddai dyledion rhwng £10,000 a £25,000 yn 

parhau i gael eu diddymu mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ac roedd dyledion yn uwch na £25,000 yn cael eu cyfeirio at Gabinet cyn y diddymu.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y flwyddyn flaenorol ac wedi ei dderbyn yn bositif.

 

PENDERFYNWYD:

 

(b) Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Dyledion Corfforaethol i gryfhau prosesau casglu Rhent Tai trwy gymryd camau trwy’r llys, fel dull diofyn, mewn achosion lle nad oedd deiliaid contract yn gwneud taliadau, lle’r oedd ganddynt 12 wythnos o ôl-ddyledion a/neu yr oedd arnynt £1,500 neu fwy.