Mater - cyfarfodydd
Cyflwyno Tudalen Gorfforaethol ar Facebook
Cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet (eitem 97)
97 Cyflwyno Tudalen Gorfforaethol ar Facebook PDF 93 KB
Pwrpas: Cytuno ar yr angen am dudalen Gorfforaethol ar Facebook a fydd yn cefnogi cyfathrebu digidol, yn cynnwys straeon o newyddion da a gwybodaeth bwysig i’n cymunedau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd y byddai cael presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrif Facebook corfforaethol yn cefnogi Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol Sir y Fflint a chyflawni cynlluniau strategol allweddol eraill drwy gyfathrebu ac ymgysylltu â chwsmeriaid ledled Sir y Fflint.
Byddai’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Chyfathrebu yn lansio ac yn rheoli cyfrifon Facebook corfforaethol Cymraeg a Saesneg ar wahân, gan roi negeseuon ar y ddau, ac yn eu defnyddio ar gyfer cyfathrebiadau brys, rhannu negeseuon allweddol, straeon o newyddion da, yn ogystal â gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu ar draws y sefydliad.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r Cyngor yn gallu dileu unrhyw negeseuon nad oedd yn berthnasol, neu, er enghraifft, yn sarhaus.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi cyflwyno cyfrif Facebook corfforaethol i helpu i gyflawni'r blaenoriaethau a amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor a'r Strategaeth Ddigidol;
(b) Bod y Cabinet yn cefnogi cyflwyno cyfrif Facebook corfforaethol a defnyddio'r platfform i rannu negeseuon gyda chwsmeriaid.