Mater - cyfarfodydd
Cyllideb 2024/25 (Cyflwyniad)
Cyfarfod: 16/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 43)
Cyllideb 2024/25 (Cyflwyniad)
Pwrpas: Crynhoi adborth o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y newidiadau a risgiau i’r gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhannodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodai ar y newidiadau i’r gofyniad ychwanegol yng nghyllideb 2024/25 ac i grynhoi adborth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu diweddar ar y pwysau, opsiynau effeithlonrwydd a risgiau cysylltiedig yn eu portffolios. Gwahoddwyd pob Aelod i fod yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:
· Pwrpas a Chefndir
· Adborth Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
o Yr Amgylchedd ac Economi (10 Hydref)
o Cymunedau a Thai (11 Hydref)
o Adnoddau Corfforaethol (12 Hydref)
o Addysg ac Ieuenctid (19 Hydref)
o Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (26 Hydref)
· Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol – y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Risgiau
o Pwysau ychwanegol o ran costau
o Newidiadau i risgiau
· Datrysiadau Cyllideb – Ffrydiau Gwaith
· Camau Nesaf ac Amserlenni
Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Hydref, mae dau bwysau ychwanegol/diwygiedig mewn perthynas â ffioedd crwner a phrydau ysgol am ddim wedi cynyddu’r galw ar gyllideb 2024/25 i £33.028 miliwn. Yn ôl y diweddariad ar risgiau, er bod dyfarniad cyflog staff NJC yn 2023 wedi’i gwblhau a’i gau, mae yna ddwy risg newydd bosibl yn ymwneud â chydgordio ffioedd maethu o fewn gofal cymdeithasol a’r cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwr ar gyfer pensiwn athrawon ym mis Ebrill 2024 – y ddau i fod i gael eu cwrdd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r diweddariad ar ddatrysiadau’r gyllideb yn manylu ar y gwaith sy’n cael ei wneud i leihau’r bwlch yn y gyllideb.
Mewn ymateb i gwestiynau’r Cynghorydd Bernie Attridge, darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth ar yr arbediad o £0.085 o’r Rhaglen Gyfalaf. O ran risgiau, darparodd enghreifftiau o ‘bartneriaid allanol’ a dywedodd fod y pwysau ar brydau ysgol am ddim yn ymwneud â’r cynnydd diweddar mewn costau ac yn y galw.
O ran Theatr Clwyd, cadarnhaodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) fod cyfraniadau’r Cyngor Celfyddydau yn aros yr un fath ac nad oes cyllid ychwanegol wedi’i geisio gan y Cyngor Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, o ran y broses o bennu’r gyllideb, y byddai’n ddefnyddiol i linellau gwariant penodol heb symudiad sylweddol gynnwys mwy o fanylion ar wario o fewn y portffolios hynny. Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at y nifer fawr o linellau gwariant y tu ôl i’r crynodeb o’r amrywiadau a dywedodd y gall Aelodau ofyn am ddadansoddiad o wasanaethau penodol yn ôl yr angen. I ateb cwestiwn arall, dywedwyd wrth y Cynghorydd Ibbotson fod cyfleuster ar wefan y Cyngor i roi gwybod am landlordiaid twyllodrus yn cael ei ddatblygu.
Cynigiodd ac eiliodd y Cynghorwyr Bernie Attridge a Debbie Owen y dylid nodi’r cyflwyniad a’i rannu gydag Aelodau. Gofynnodd y Cadeirydd i gyflwyniadau yn y dyfodol gael eu rhannu gydag Aelodau cyn cyfarfodydd i helpu Aelodau i baratoi.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r cyflwyniad a’i rannu gyda’r Aelodau.