Mater - cyfarfodydd

Rheoli Eiddo Gwag

Cyfarfod: 15/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 50)

50 Rheoli Eiddo Gwag pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai’r ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.

 

Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, a dywedodd fod 29 eiddo wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Amlinellodd hefyd y wybodaeth ganlynol, fel a gyflwynwyd yn y nodyn briffio:-

 

  • Nifer yr eiddo mawr gwag
  • Cyfanswm nifer yr eiddo gwag a oedd wedi gostwng i 229
  • Perfformiad y contractwyr presennol
  • Y prif resymau dros derfynu contractau

 

Fel a ofynnwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, darparodd y Rheolwr Gwasanaeth wybodaeth am nifer yr eiddo gwag newydd a faint a oedd wedi’u cwblhau yn ôl ardal dosbarth cyfalaf, fel a amlinellwyd yn y nodyn briffio.

 

Gan ymateb i gwestiwn am fath o eiddo, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod 5 eiddo 4 ystafell wely ar hyn o bryd, ond bod angen gwaith buddsoddi mawr, a oedd wedi achosi oedi wrth iddynt gael eu dychwelyd i’w dyrannu.  Dywedodd hefyd eu bod yn parhau i gynyddu dyraniad cyflenwyr trwy reolaeth ofalus a monitro cyson.

 

            Gan ymateb i gwestiwn o ran cynyddu nifer y contractwyr, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y fframwaith wedi’i ddatblygu ar gyfer 6 chontractwr felly ni fyddai’n bosibl cynyddu’r nifer ar hyn o bryd.  Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod y Sefydliad Llafur Uniongyrchol mewnol yn parhau i weithio ar 25–30 eiddo.  Roedd contractwyr allanol wedi cynyddu eu llwyth gwaith o 50 eiddo gwag i 60 eiddo gwag ar gyfartaledd. 

  

Mynegodd y Cynghorydd David Evans bryderon am nifer yr eiddo gwag heb ymyrraeth ddigon cyflym.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Geoff Collett fod y Pwyllgor yn symud oddi wrth drefn o gael y nodyn briffio bob mis ac awgrymodd fod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf bob chwarter.  Roedd y Cadeirydd yn teimlo bod angen parhau i fonitro nifer yr eiddo gwag bob mis, ac roedd y Pwyllgor yn cefnogi hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.