Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 - 2026/27
Cyfarfod: 16/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 46)
46 Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 - 2026/27 PDF 156 KB
Pwrpas: Cyflwyno Strategaeth Gyfalaf 2024/25 - 2026/27 ar gyfer ei hadolygu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Capital Strategy 2024/25 - 2026/27, eitem 46 PDF 295 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 - 2026/27
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf wedi ei diweddaru cyn ei chyflwyno i’r Cabinet. Dogfen drosfwaol oedd y Strategaeth a oedd yn dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25 - 2026/27.
Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, bydd ychydig o newid i egluro y gellid defnyddio derbyniadau cyfalaf i ariannu’r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw yn uniongyrchol.
Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:-
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25– 2026/27 fel y manylir yn Nhablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf
· Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf)