Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Tir Halogedig
Cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet (eitem 104)
104 Strategaeth Tir Halogedig PDF 102 KB
Pwrpas: Bod y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Archwilio Tir Halogedig.
Dogfennau ychwanegol:
- Contaminated Land Strategy - App 1, eitem 104 PDF 3 MB
- Contaminated Land Strategy - App 2, eitem 104 PDF 54 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Tir Halogedig
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac eglurodd fod y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yn disgrifio sut roedd yn ofynnol i Gyngor Sir y Fflint drwy Ran 2A o’r Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 nodi ac archwilio tir o fewn ei reolaeth gweinyddu ac eglurodd y camau y bydda’r Cyngor yn eu cymryd i archwilio’r tir i sicrhau bod tir halogedig yn cael ei adfer.
Roedd Strategaeth Archwilio Tir Halogedig Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei diweddaru yn 2023 i adlewyrchu polisïau ac amcanion presennol y Cyngor a disodli prif ddarn o ganllawiau rheoleiddio sy’n ymwneud ag asesu tir halogedig.
Roedd yr adroddiad yn egluro diben y Strategaeth a’r diweddariadau a wnaed.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried mewn cyfarfod diweddar o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac roedd y sylwadau a dderbyniwyd wedi eu hadlewyrchu yn y strategaeth a ddiweddarwyd a gyflwynwyd i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
Bod y diweddariadau i’r Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yn cael eu cymeradwyo.