Mater - cyfarfodydd
Suggested items for the National Forum for Chairs of Standards Committees
Cyfarfod: 06/11/2023 - Pwyllgor Safonau (eitem 37)
Eitemau a awgrymir ar gyfer Fforwm Cenedlaethol Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau
Oesgan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer eitemau i’w trafod yn y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau ym mis Ionawr?
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ceisiodd y Cadeirydd eitemau ar gyfer y rhaglen Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau a oedd wedi’i drefnu ar gyfer Ionawr 2024. Cytunwyd ar yr argymhellion canlynol:
· Gofyn pryd fydd y Cynhadledd Cymru Gyfan ar gyfer Pwyllgor Safonau yn digwydd.
· Ceisio diweddariad ar y cynnydd o ran mabwysiadu trothwy cyson ar gyfer datgan anrhegion a lletygarwch yng Nghymru.
· Ceisio barn os yw Arweinwyr Gr?p yn cael caniatâd i eistedd ar Bwyllgorau Safonau ar draws Cymru, o ystyried y ddyletswydd newydd ar hyrwyddo ymddygiad moesegol.
· Hyrwyddo’r Addewid Cwrteisi a Pharch.
· Rhannu dysgeidiaeth o’r ymweliadau arsylwi yn y cyfarfodydd all gynorthwyo cynghorau eraill.
· Canfod unrhyw ganllawiau ar ddefnydd cyfryngau cymdeithasol sy’n wahanol i’r hyn a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Cynigiwyd yr eitemau uchod gan y Cynghorydd Teresa Carberry ac fe’u heiliwyd gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Bod yr eitemau uchod yn cael eu cyflwyno fel rhai i’w cynnwys ar raglen cyfarfod nesaf y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgor Safonau.