Mater - cyfarfodydd

Reports from Independent Member visits to County Council meetings

Cyfarfod: 06/11/2023 - Pwyllgor Safonau (eitem 35)

Presenoldeb Aelodau Annibynnol Ymweliadau  Chyfarfodydd y Cyngor

Derbyn adroddiadau llafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cyfarfodydd canlynol:

 

·         10.10.23 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi (David Davies)

·         17.10.23 - Cabinet (Gill Murgatroyd)

·         19.10.23 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (David Davies)

·         24.10.23 - Cyngor Sir y Fflint (Mark Morgan)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd fod yr Aelodau Annibynnol wedi cytuno ar rota ar gyfer mynychu ac arsylwi cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Sir ar gyfer 2023/24, yn debyg i’r trefniant a gyflawnwyd ar gyfer y cyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned.  Gwahoddodd yr Aelodau Annibynnol i gyflwyno eu hadroddiadau ar yr ymweliadau cyntaf a gyflawnwyd, fel a ganlyn:

 

·         David Davies - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 10 Hydref

·         Gill Murgatroyd - Y Cabinet ar 17 Hydref

·         David Davies - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 19 Hydref

·         Mark Morgan - Cyngor Sir y Fflint ar 24 Hydref

 

Codwyd y pwyntiau allweddol canlynol o’r ymweliadau hynny:

 

·         Yn gyffredinol roedd y cyfarfodydd wedi’u cadeirio’n dda.

·         Roedd rhaglenni wedi eu paratoi’n dda ac yn cynnwys eitem ar ddatgan cysylltiad. 

·         Dylai swyddogion sy’n mynychu’r cyfarfodydd gael eu cyflwyno yn ôl eu rolau a dylai teitlau swydd gael eu harddangos mewn cyfarfodydd o bell er mwyn cynorthwyo’r arsylwyr.

·         Mewn ymateb i’r materion a arsylwyd mewn un cyfarfod, dylid atgoffa Cynghorwyr y dylent ddewis eu geiriau yn ofalus, oherwydd er bod gwahaniaethau barn, mae’n bwysig parhau i fod yn barchus a chwrtais fel bod cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal mewn modd proffesiynol heb danseilio hyder yn y Cyngor.

 

Yn ystod trafodaeth ar y pwynt olaf, cyfeiriwyd at yr eitem flaenorol ar yr Addewid Cwrteisi a Pharch gan Gynghorau Lleol.  Awgrymodd Gill Murgatroyd y gall Aelodau Annibynnol sy’n arsylwi cyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol, ganfod themâu parhaus er mwyn ystyried camau posibl megis codi pryderon gyda’r Arweinydd Gr?p perthnasol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai adborth o’r ymweliadau yn cael eu rhannu mewn cyfatebiaeth gyda’r holl Aelodau.  Cafodd hyn ei gynnig a’i eilio gan Gill Murgatroyd a David Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r adborth llafar i’w rannu gyda’r holl Aelodau.