Mater - cyfarfodydd
Pwysau Digartrefedd
Cyfarfod: 15/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 48)
48 Pwysau ar y Gyllideb Digartrefedd - Papur Opsiynau PDF 115 KB
Pwrpas: Cyflwyno mesurau lliniaru arfaethedig sy’n cael eu harchwilio gyda’r golwg i leihau’r pwysau cyllidebol mewn perthynas â llety brys.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Outline of options, eitem 48 PDF 125 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Pwysau ar y Gyllideb Digartrefedd - Papur Opsiynau
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal adroddiad i amlinellu dewisiadau a oedd wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb digartrefedd.
Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau
llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’. Yn ogystal â’r ddarpariaeth hon yn y gyllideb ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys. Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb. Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn ffiniau Sir y Fflint a thu hwnt, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a rhandai.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, yn Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Medi 2023, argymhellwyd bod adroddiad ar wahân yn cael ei baratoi yn ôl gofynion Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, i ymhelaethu ar y rhesymau dros y gorwariant sylweddol ar y gyllideb digartrefedd
a’r mesurau lliniaru a oedd yn cael eu rhoi ar waith.
Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau
llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’. Yn ogystal â’r ddarpariaeth hon yn y gyllideb ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys. Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb. Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn ffiniau Sir y Fflint a thu hwnt, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a rhandai.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod dewisiadau wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb digartrefedd, fel a ganlyn:-
- Cyflymu adolygiad o dai gwarchod – yn cynnwys llety i grwpiau dros 55 oed a grwpiau llai i rai 50 oed a h?n a’r posibilrwydd o ostwng y trothwy oedran.
- Cynnydd o ran llety i bobl ddigartref ac adolygu model tebyg i ganolbwynt Queensferry.
- Newidiadau i bolisi dyrannu – newidiadau Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) i eiddo mynediad sengl. (Mae cafeat ar y dull hwn oherwydd newidiadau mawr sydd i ddod i ddeddfwriaeth).
- Defnydd amgen o stoc CSFf – cymryd mwy o Dai o’r CRT i’w defnyddio fel llety dros dro a chreu cyfleoedd rhannu t? ar gyfer eiddo deiliadaeth sengl.
- Adolygu cynigion i landlordiaid preifat – cynyddu faint o arian gaiff landlordiaid am brydlesu, a/neu gynnig mwy o gymhellion.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a darparu adborth am bob un o’r dewisiadau, fel a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Dewis 1
Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal am y cynigion dan ddewis 1, a oedd yn ymwneud â’r dewisiadau ar gyfer cyflymu’r adolygiad o dai gwarchod.
Codwyd nifer o bryderon am yr effaith bosibl y gallai lleihau’r trothwy oedran ei chael ar bobl ... view the full Cofnodion text for item 48