Mater - cyfarfodydd
Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) draft Annual Report 2024/25
Cyfarfod: 08/11/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 17)
Cael yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2024/2025.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) draft Annual Report 2024/25, eitem 17 PDF 150 KB
- Enc. 2 for Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) draft Annual Report 2024/25, eitem 17 PDF 77 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2024/25
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) ac eglurodd ei fod wedi'i ddosbarthu i bob Awdurdod Lleol a Chynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r prif bwyntiau yn yr Adroddiad Blynyddol, gan fod yr IRPW yn gyfrifol am osod cyfraddau taliadau arfaethedig ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer 2024/25. Darparwyd gwybodaeth am y cynnydd sylfaenol i £18,666 ar gyfer Aelodau o 1 Ebrill 2024, ac mae'r tabl ym mhwynt 1.03 yn yr adroddiad yn amlygu'r newidiadau eraill a gynigir. Roedd yr holl gyflogau wedi'u hadolygu o dan y Cynllun Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) gyda fforddiadwyedd a thaliadau aelodau cyfetholedig yn ffocws ar gyfer eleni. Roedd y newidiadau a awgrymwyd wedi’u hamlygu ym mhwynt 1.06 yn yr adroddiad gyda'r holl benderfyniadau eraill megis costau teithio a gofal yn aros yr un fath. Rhoddwyd trosolwg hefyd o'r newidiadau i ddulliau adrodd ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.
Yna cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y goblygiadau o ran adnoddau a dywedodd ei fod yn gofyn i unrhyw Aelod nad yw’n dymuno derbyn y cynnydd ysgrifennu ato'n uniongyrchol. Roedd pwynt 1.10 yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y cwestiynau oedd yn cael eu gofyn gan yr IRPW gyda gwybodaeth gefndir wedi'i hamlygu i'r aelodau. I gloi, esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod barn y Pwyllgor yn cael ei geisio cyn i’r Cyngor gyflwyno ymateb i’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn 8 Rhagfyr 2023. Roedd yn ofynnol i’r IRPW ystyried unrhyw sylwadau a wneir am yr adroddiad drafft cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2024.
Roedd gan y Cynghorydd Ted Palmer bryderon ynghylch y pwysau gan gyfoedion ar Aelodau i dderbyn y cynnydd hwn a soniodd ei fod wedi mynychu cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd Cymru lle'r oedd cynrychiolwyr IRPW yn bresennol. Wrth ofyn yr un cwestiwn iddyn nhw, cadarnhawyd nad oeddent wedi’u deddfu i orfodi’r cynnydd hwn ond y gallai awdurdodau lleol lobïo Llywodraeth Cymru i newid y sefyllfa. Gofynnodd sut yr oedd yr awdurdod yn lobïo'r llywodraeth i newid y broses.
Mewn ymateb cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod modd cysylltu â'r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ond awgrymwyd hefyd y dylid cynnwys hyn fel rhan o'r adborth i'r adroddiad hwn. Pe bai'r farn hon yn cael ei mynegi ar draws holl Gynghorau Cymru, yna byddai'n cael ei chynnwys yn yr adroddiad adborth. Cytunodd hefyd i gysylltu â CLlLC i weld a oeddent wedi derbyn adborth tebyg.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Palmer at bwysau gan gyfoedion a gofynnodd a oedd yn hysbys p’un a oedd unrhyw bwysau sgorio pwyntiau gwleidyddol yn berthnasol, oherwydd mae’n bosibl bod rhai pobl yn dibynnu ar y lwfans uwch a bod ei angen arnynt. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yna thema a geiriad yn yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu hynny. Roedd yr IRPW yn ceisio annog a chynyddu amrywiaeth o fewn Cynghorau ac mae’n bosibl bod cydnabyddiaeth ariannol yn unig incwm i ... view the full Cofnodion text for item 17