Mater - cyfarfodydd
Rolling Review of the Members Code of Conduct
Cyfarfod: 06/11/2023 - Pwyllgor Safonau (eitem 36)
36 Adolygiad Treigl o God Ymddygiad yr Aelodau PDF 86 KB
Rydym yn adolygu pob Cod a Phrotocol o leiaf unwaith ymhob tymor o’r Cyngor er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn gyfoes. Hwn yw’r adolygiad ar gyfer Cod Ymddygiad yr Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar God Ymddygiad Aelodau a oedd i’w adolygu fel rhan o’r rhaglen dreigl.
Ers yr adolygiad diwethaf ym mis Tachwedd 2022, roedd holl awdurdodau yng Nghymru wedi cytuno i fabwysiadu gwerth cyffredin o £25 fel y trothwy ar gyfer cofrestru anrhegion a lletygarwch, fel yr argymhellwyd gan yr Adolygiad Penn. Dyma’r unig newid a argymhellwyd i’r Cod Ymddygiad.
Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Antony Wren ac Andrew Parkhurst.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn diwygio’r gwerth y mae angen cofrestru anrhegion a lletygarwch o £10 i £25.