Mater - cyfarfodydd
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6)
Cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet (eitem 78)
78 Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) PDF 133 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 78 PDF 52 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 78 PDF 92 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 78 PDF 62 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 78 PDF 105 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 78 PDF 41 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl cyntaf i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 6.
Roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredol o £3.559 miliwn (heb gynnwys effaith y dyraniadau cyflog y byddai angen eu talu o gronfeydd wrth gefn - a amcangyfrifir yn oddeutu £2.727 miliwn), a oedd yn newid ffafriol o £0.101 miliwn, ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 5. Nodwyd fod yr effaith ariannol o ganlyniad i storm Babet heb gael ei gynnwys yn yr amcanestyniad ond roedd disgwyl iddo fod yn sylweddol.
· Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £3.776 miliwn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog a chymryd i ystyriaeth y Balansau a ryddhawyd i Gronfeydd wrth Gefn ym Mis 5).
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn (£0.069 miliwn) yn is na'r gyllideb a oedd yn symudiad ffafriol o (£0.075 miliwn) o'r ffigur a adroddwyd ym Mis 5.
· Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.266 miliwn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon economaidd yn parhau'n heriol gan fod lefelau chwyddiant yn parhau i fod yn uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau, yn dod yn fwyfwy anodd ymdrin â nhw wrth i gyllid y Cyngor fethu â chadw i fyny â maint y pwysau hynny. Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, roedd moratoriwm drwy adolygu gwariant diangen ynghyd â phroses o reoli swyddi gweigion yn parhau.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y disgwylir i gostau yn ymwneud â Storm Babet i fod ar gael i’w hadrodd yn ôl i Gabinet ym mis Rhagfyr.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24; a
(b) Bod y newid defnydd o £0.100m o gronfa wrth gefn ar gyfer y gwasanaeth Galw Gofal fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.