Mater - cyfarfodydd
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6)
Cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet (eitem 79)
79 Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6) PDF 185 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 6 ar gyfer 2023/24.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Programme Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 79 PDF 35 KB
- Enc. 2 for Capital Programme Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 79 PDF 90 KB
- Enc. 3 for Capital Programme Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 79 PDF 136 KB
- Enc. 4 for Capital Programme Monitoring 2023/24 (Month 6), eitem 79 PDF 77 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 ers ei gosod ym mis Ionawr 2023 hyd at ddiwedd Mis 6 (Medi 2023), ynghyd â’r gwariant gwirioneddol hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.
Bu gostyngiad net o £4.422 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
- Lleihad yng nghyllideb net y rhaglen o (£1.342m) (Gweler Tabl 2 - Cronfa’r Cyngor
(CC) £4.326m, y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) (£5.668m);
- Swm i’w ddwyn ymlaen i 2024/25 wedi’i gymeradwyo ym Mis 4 o (£3.080 miliwn)
Y gwariant gwirioneddol oedd £27.517 miliwn (Gweler Tabl 3).
Roedd derbyniadau cyfalaf a gafwyd yn yr ail chwarter o 2023/24 yn gyfanswm o £0.043m. Roedd hynny’n darparu arian dros ben diwygiedig a ragwelwyd yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 6 o
£1.996m (o arian dros ben ym Mis 4 o £1.953m) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26
cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol ac/neu ffynonellau cyllid eraill.
Pan adroddwyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gofynnwyd bod y tabl ar fuddsoddiad ar drefi sir yn cynnwys cyfnodau hirach er mwyn dangos buddsoddiadau dros amser.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau i gael eu parhau; a
(c) Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.