Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 11/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 60)

60 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol bresennol i’w hystyried.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gohirio adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru tan fis Mawrth er mwyn canolbwyntio ar y gyllideb yng nghyfarfod mis Chwefror.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a’r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.