Mater - cyfarfodydd

Cofnodion

Cyfarfod: 16/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 40)

40 Cofnodion pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Hydref 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 12 Hydref 2023, wedi’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall, yn amodol ar ddau newid i gofnodion 30 a 35.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 34: Cyllideb 2024/25 – Bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn edrych i mewn i’r cais am ddadansoddiad o’r pwysau o £365,000 ar Fodelau Cyflawni Amgen ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Dan yr un cofnod, bydd swyddogion yn cysylltu â’r Cadeirydd i lunio llythyr fel y nodwyd ym mhenderfyniad (b).

 

Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r swyddogion am rannu’r ymatebion i’w ymholiadau a gofynnodd am fwy o eglurhad ynghylch y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. O ran Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, gofynnodd a fydd cyfraniadau ychwanegol yn cael eu gwneud i’r Gronfa Budd Cymunedol a beth yw’r rheswm dros y gostyngiad sylweddol disgwyliedig erbyn diwedd y flwyddyn, o ystyried y bydd y gronfa yn weithredol tan 2044/45. Gan nad oes ceisiadau wedi’u cymeradwyo yn ystod y flwyddyn, gofynnodd a fyddai taliadau pellach yn cael eu lleihau gan fod y gronfa yn segur.

 

Ar y mater olaf, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gael ymateb manwl i rannu gyda’r Pwyllgor. Pan ofynnwyd am y rhesymeg ar gyfer cadw’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer ffermydd solar, eglurodd fod hwn yn ymrwymiad penodol hysbys sydd wedi’i neilltuo i ariannu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Sam Swash at yr ymateb a rannwyd ar y gyllideb weddilliol o £0.110 miliwn, sydd heb ei glustnodi ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mynegodd bryderon ynghylch diffyg craffu a dywedodd os nad oedd y swm yn cael ei ddefnyddio at y diben arfaethedig y dylid ei roi yn ôl yn y gyllideb gyffredinol.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod costau ychwanegol wedi’u nodi o fewn y gyllideb bresennol wrth i broses y CDLl ddod i ben, fodd bynnag mae Aelodau yn gallu herio unrhyw agwedd ar y gyllideb fel rhan o’r broses.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Swash, awgrymodd y Cadeirydd bod y dyraniad CDLl sy’n weddill yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol fel arbediad ac i gofnodi’r eitemau ychwanegol fel pwysau yng nghanol y flwyddyn ar gyfer y swm hwnnw. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i weithio gyda’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd, a’r Economi) i fwrw ymlaen â hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.