Mater - cyfarfodydd
Olrhain Gweithred
Cyfarfod: 11/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 59)
59 Olrhain Gweithred PDF 75 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf ar y camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol gan ddweud bod ymatebion pellach i’r cwestiynau wedi’u dosbarthu ers cyhoeddi’r rhaglen.
Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r Swyddogion am yr ymateb a rannwyd ar y gwasanaeth Cymorth i Hawlio a gofynnodd am eglurhad ynghylch a oedd gwasanaeth Sir y Fflint yn cael ei ddarparu gan Gyngor ar Bopeth Gorllewin Swydd Gaer a Chaer fel rhan o gontract yr Adran Gwaith a Phensiynau. Byddai Swyddogion yn anfon ymateb cyn y cyfarfod nesaf.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.