Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cyfarfod: 29/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 48)
48 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 48 PDF 58 KB
- Enc. 2 - Action Tracking, eitem 48 PDF 46 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Waith gyfredol a’r broses o ran Olrhain Camau Gweithredu fel y nodir yn yr adroddiad ac atgoffodd aelodau nad oeddent wedi ymateb i’w neges e-bost i roi gwybod iddi a allent ddod i’r ymweliad safle / gweithdy a oedd i’w gynnal ar 13 Mawrth 2024. Dywedodd y byddai rhagor o fanylion yn ymwneud â’r ymweliad yn cael ei ddosbarthu’n fuan.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Mackie yn ymwneud â’r ddwy raglen drom ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, nododd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hyn o ganlyniad i’r ffaith fod y cyfarfodydd a oedd i’w cynnal yn Ebrill a Mai wedi eu canslo o ganlyniad i Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a oedd yn cael ei gynnal ym mis Mai.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a)
Cymeradwyo’r Rhaglen
Waith;
(b)
Rhoi awdurdod i’r
Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i
amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd yn ôl yr
angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu nad ydynt wedi’u cwblhau.