Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred

Cyfarfod: 18/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 40)

40 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith bresennol a’r Ôl-rhain Camau Gweithredu fel y nodir yn yr adroddiad i’w ystyried a chroesawyd unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill am y rhestr gofynion cyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd wedi cael ei ryddhau mis Mehefin diwethaf i gael ei ddosbarthu ymysg yr Aelodau fel eu bod nhw’n dod i fyny gyda syniadau cyn y cyfarfod cyllideb i geisio lleihau’r gyllideb heb orfod lleihau’r gwasanaethau.  Cynghorodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y gofynion ar gyfer y gyllideb wedi newid yn sylweddol ers mis Mehefin diwethaf a bod yr adroddiad gan y Swyddog A151 yn cyflwyno’r sefyllfa ddiweddaraf.  Eglurodd bod Gwasanaethau Cymdeithasol angen dod o hyd i arbedion ar gyfer y flwyddyn i ddod ac y byddai cynigion yn cael eu hegluro yn y gweithdai yr wythnos nesaf a fyddai’n rhoi amser i Aelodau wneud cynigion ychwanegol i’r cyfarfod arbennig ar 9 Chwefror.   Ychwanegodd bod y gyllideb manwl yn cael ei rhannu’n rheolaidd ac yn parhau i gael ei rannu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bateman at yr ail eitem ar yr Ôl-rhain Camau Gweithredu yngl?n â gwybodaeth ar wasanaethau statudol ac anstatudol ac fe gadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r adroddiad sy’n cynnwys y wybodaeth yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod ar 9 Chwefror.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod ar 24 Mehefin 2024 yn trafod cais a wnaed gan y Cynghorydd Mackie yngl?n â’r sefyllfa gyda Chartrefi Gofal.

 

Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n ail-ofyn i Brif Weithredwr BIPBC am ddyddiad ar bryd y byddan nhw’n derbyn ymateb i’r cwestiynau a gyflwynwyd.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith;

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

(c)       Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu heb eu cwblhau.