Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cyfarfod: 09/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 61)
61 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (Env), eitem 61
PDF 70 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (Env), eitem 61
PDF 48 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi’r Rhaglen Waith a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau a fydd yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf ar 6 Chwefror ynghyd a throsolwg o’r eitemau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y cyfarfodydd ym misoedd Mawrth, Mehefin a Gorffennaf.
Yna, cyfeiriodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am eitemau ar y gweill ac eitemau wedi’u cwblhau. Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers y pwynt yn y cofnodion a oedd yn cyfeirio at yr adroddiad olrhain camau gweithredu ac adroddodd ar sgwrs gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a oedd wedi cadarnhau y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu’n fuan.
Cynigodd y Cynghorydd Richard Lloyd yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Coggins Cogan.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.