Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cyfarfod: 21/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 50)
50 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 50 PDF 72 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 50 PDF 58 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sydd wedi’u rhestru ar y Rhaglen Waith a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Byddai’r Rhaglen Waith yn cael ei diweddaru i gynnwys dyddiadau’r cyfarfodydd yn y dyfodol yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir.
Wrth gyflwyno’r adroddiad Olrhain Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y camau ar recriwtio a chadw staff wedi’u cynnwys yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Hefyd, amlygwyd bod Adolygiad Ardal Saltney a Brychdyn a chamau Theatr Clwyd wedi eu cynnwys o dan eitemau i’w cynnwys. Roedd y llythyr gan y Cadeirydd yn diolch i Benaethiaid wedi cael ei ddosbarthu drwy e-bost a chadarnhawyd bod y camau oedd yn ymwneud â Chynllun y Cyngor wedi cael eu cwblhau gyda’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn dosbarthu e-bost i holl staff yn diolch iddynt am eu gwaith caled i gyflawni’r prif dargedau blaenoriaeth. Roedd yr holl gamau bellach wedi eu cwblhau.
Roedd y Cadeirydd wedi gofyn i adroddiad gan NEWydd mewn perthynas â Phrydau Ysgol gael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith. Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Dave Mackie i adborth gan ysgolion/disgyblion gael ei gynnwys yn yr adroddiad, roedd y Prif Swyddog yn awgrymu bod Steve Jones a Claire Sinnott yn cydweithio ar adroddiad i nodi disgyblion yn ymgysylltu â NEWydd o amgylch Prydau Ysgol.
Roedd y Cynghorydd Mackie yn gofyn i adroddiad ar Wella Ysgol mewn perthynas â GwE, yn benodol o amgylch cyllido’r sefydliad a chynigion wrth symud ymlaen gael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith. Roedd y Prif Swyddog yn croesawu hyn ac yn awgrymu bod adroddiad yn manylu goblygiadau’r newidiadau, effeithiau ariannol a disgwyliadau ar yr Awdurdodau Lleol i wneud trefniadau gwahanol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Mai.
Roedd y Prif Swyddog yn awgrymu bod adroddiad ar Arolygiaeth y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Waith ar gyfer cyfarfod mis Medi.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a fyddai’r adroddiad i’r Cydbwyllgor Craffu ym mis Mehefin ar Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys gwybodaeth ar ddarparu addysg i blant gydag Awtistiaeth. Dywedodd y Prif Swyddog o fewn yr adroddiad y byddai yna gyfeiriad penodol at addysg arbenigol a beth oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r galw cynyddol hwn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Parkhurst ar yr adroddiad Arian Wrth Gefn Ysgolion, dywedodd y Prif Swyddog bod yn rhaid i ysgolion gyflwyno eu cyllidebau i’r Cyngor erbyn 30 Mehefin a bod yna nifer o brosesau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd o amgylch ailstrwythuro’r gweithlu. Teimlwyd na fyddai hwn yn barod cyn gwyliau’r haf ac mai mis Medi oedd yr amser gorau i gyflwyno hwn i’r Pwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Carolyn Preece.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng ... view the full Cofnodion text for item 50