Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (EY& C)

Cyfarfod: 01/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 41)

41 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sydd wedi’u rhestru ar y Rhaglen Waith a oedd ynghlwm yn Atodiad 1.  Nid oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r Rhaglen Waith.

 

Esboniwyd, yn dilyn y cyfarfod diwethaf, bod amryw o newidiadau wedi cael eu gwneud i’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu o amgylch materion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff, y diwygiad i’r eitemau Anghenion Dysgu Ychwanegol a Mynd i’r Afael ag Effaith Anghydraddoldeb ar Ddeilliannau Addysg. Roedd yr eitem ar Ddemograffeg wedi’i chynnwys fel rhan o’r Adroddiad Blynyddol ar Falansau Ysgol ac roedd y pwrpas yn y Rhaglen Waith wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn.  Roedd adroddiad hefyd wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Waith ar y Fframwaith Arolygu ar gyfer Ysgolion a fyddai’n cynnwys y fenter Cofia Ceri.

           

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r Rhaglen Waith yn cael ei diweddaru pan fyddai’r adroddiad o’r Ymgynghoriad Ardal Saltney / Brychdyn yn cael ei gyflwyno yng nghylch y Cabinet.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â Theatr Clwyd, cytunodd y Prif Swyddog i gynnwys diweddariad blynyddol yn y Rhaglen Waith i nodi cyfranogiad pobl ifanc yn y gweithgareddau ac i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaeth Cerdd Sir y Fflint.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Carolyn Preece a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Waith;

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)       Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.