Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred
Cyfarfod: 17/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 12)
12 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 12 PDF 69 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community & Housing OSC, eitem 12 PDF 58 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith gyfredol i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu sy’n weddill. Yn dilyn cwestiynau ynghylch yr adolygiad ar safle’r garej, cytunwyd y byddai adroddiad diweddaru ar yr adolygiad ar safle’r garej ynghyd â diweddariad ar y matrics parcio ceir yn cael ei ychwanegu ar y Rhaglen Waith. Cytunwyd hefyd bod copi o ganlyniad yr adolygiad ar safle’r garej yn ôl ward yn cael ei ddosbarthu at holl Aelodau’r Cyngor. Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi. |
PENDERFYNWYD: |
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|