Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred

Cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 77)

77 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Waith bresennol i’w hystyried gan sôn am y diwygiadau canlynol a oedd wedi’u gwneud ers y cyfarfod diwethaf:-

 

  • Ychwanegwyd yr adroddiad ‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a Hunanddibyniaeth Cymunedau at y Rhaglen Waith ar gyfer y cyfarfod ar 12 Mehefin.

 

Mewn perthynas â chamau heb eu cwblhau o’r cyfarfodydd blaenorol, dywedodd yr Hwylusydd bod llythyr yn gofyn, ar lefel genedlaethol, i Lywodraeth Cymru (LlC) annog rhieni i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim wedi cael ei anfon i Lywodraeth Cymru ac y byddai copi o’r ymateb yn cael ei ddosbarthu ar ôl ei dderbyn.  Roedd yr holl gamau a oedd yn ymwneud â’r Gofrestr Tai Cyffredin (Un Llwybr Mynediad at Dai - ULlMaD) wedi cael eu cwblhau.

 

Cytunodd yr Hwylusydd i ddosbarthu copi o’r llythyr a anfonwyd i Lywodraeth Cymru, at yr Aelod Cabinet yn dilyn y cyfarfod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer dderbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Kevin Rush y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith.

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu heb eu cwblhau.