Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (CH & E)

Cyfarfod: 10/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 61)

61 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried gan sôn am y diwygiadau canlynol a oedd wedi’u gwneud ers y cyfarfod diwethaf:-

 

  • Byddai’r adroddiad am yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, a oedd i fod i gael ei gyflwyno ym mis Chwefror yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth bellach; a
  • Byddai adroddiad y Gyllideb 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Chwefror.

 

O ran y ddogfen olrhain camau gweithredu, a ddangosir fel Atodiad 2 yr adroddiad, dywedodd yr Hwylusydd fod y llythyr a oedd i’w anfon at Lywodraeth Cymru (LlC) am bwysau o ran cyllid ar gyfer digartrefedd wedi’i gymeradwyo gan y Cadeirydd ond roedd yn cael ei adolygu yn dilyn cyhoeddiad cyllideb diweddar LlC a byddai’n cael ei anfon cyn y cyfarfod nesaf. 

 

Dywedodd yr Hwylusydd hefyd ei bod yn dal i ofyn am y wybodaeth ariannol a ofynnwyd amdani am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a allai gael ei chynnwys yn adroddiad y gyllideb sydd i gael ystyriaeth yn y cyfarfod nesaf. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.