Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred
Cyfarfod: 10/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 61)
61 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 61 PDF 70 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 61 PDF 53 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried gan sôn am y diwygiadau canlynol a oedd wedi’u gwneud ers y cyfarfod diwethaf:-
- Byddai’r adroddiad am yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, a oedd i fod i gael ei gyflwyno ym mis Chwefror yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth bellach; a
- Byddai adroddiad y Gyllideb 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Chwefror.
O ran y ddogfen olrhain camau gweithredu, a ddangosir fel Atodiad 2 yr adroddiad, dywedodd yr Hwylusydd fod y llythyr a oedd i’w anfon at Lywodraeth Cymru (LlC) am bwysau o ran cyllid ar gyfer digartrefedd wedi’i gymeradwyo gan y Cadeirydd ond roedd yn cael ei adolygu yn dilyn cyhoeddiad cyllideb diweddar LlC a byddai’n cael ei anfon cyn y cyfarfod nesaf.
Dywedodd yr Hwylusydd hefyd ei bod yn dal i ofyn am y wybodaeth ariannol a ofynnwyd amdani am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a allai gael ei chynnwys yn adroddiad y gyllideb sydd i gael ystyriaeth yn y cyfarfod nesaf.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.