Mater - cyfarfodydd
Menter Gymdeithasol
Cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet (eitem 82)
82 Menter Gymdeithasol PDF 148 KB
Pwrpas: 1) rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Cyngor i gefnogi mentrau cymdeithasol; 2) ymateb i adolygiad Archwilio Cymru o gefnogaeth i fentrau cymdeithasol yng Nghymru; a 3) cyflwyno hunanasesiad y Cyngor ar gefnogi mentrau cymdeithasol a’r cynllun gweithredu mentrau cymdeithasol diwygiedig.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Social Enterprise, eitem 82 PDF 111 KB
- Enc. 2 for Social Enterprise, eitem 82 PDF 106 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Menter Gymdeithasol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad gan egluro fod Archwilio Cymru wedi cwblhau adolygiad yn ddiweddar o’r gefnogaeth y mae’r sector menter gymdeithasol yn ei gael gan awdurdodau lleol Cymru. Roedden nhw wedi cyflwyno sawl argymhelliad a chreu offer hunanasesu i awdurdodau lleol eu defnyddio. Mae Cyngor Sir y Fflint eisoes gyda strwythur wedi’i hen sefydlu i gefnogi’r sector a dyfarnwyd y cyngor yn ddiweddar gydag achrediad Menter Gymdeithasol i adlewyrchu ei gyflawniadau. Fodd bynnag, mae’r adroddiad Archwilio Cymru wedi darparu’r Cyngor gyda’r cyfle i adlewyrchu ar ei berfformiad ac i wella ei wasanaeth.
Mae’r adroddiad wedi cyflwyno ymateb arfaethedig i argymhellion adroddiad Archwilio Cymru, ymarfer hunanasesiad wedi’i gyflawni gan y Cyngor yn defnyddio templed Archwilio Cymru ac i orffen, Cynllun Gweithredu Menter Gymdeithasol ddiwygiedig sy’n adlewyrchu meysydd o welliant a nodwyd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i gyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, lle roedd y manylion ar fenter gymdeithasol wedi derbyn ymateb cadarnhaol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo ymateb drafft i’r adroddiad Archwilio Cymru ‘Cyfle wedi’i golli’ - Mentrau Cymdeithasol; a
(b) Bod y Cynllun Gweithredu Menter Gymdeithasol a ddatblygwyd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad uchod yn cael ei gymeradwyo.