Mater - cyfarfodydd
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet (eitem 81)
81 Y Gronfa Ffyniant Gyffredin PDF 163 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen a’r prosiectau sydd wedi’u dewis ar gyfer derbyn grant trwy ddyraniad cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Shared Prosperity Fund, eitem 81 PDF 72 KB
- Enc. 2 for Shared Prosperity Fund, eitem 81 PDF 93 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad, gan egluro y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad o £2.5 biliwn hyd at fis Mawrth 2025 ar draws y DU. Nod y rhaglen oedd “meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd”. Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £126 miliwn i Ogledd Cymru ar gyfer darparu’r rhaglen rhwng 2022/2023 a 2024/2025 ac roedd £11 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir y Fflint ar gyfer y rhaglen graidd.
Cymeradwyodd Cabinet y meini prawf a’r broses o ddyrannu cyllid gan y rhaglen i brosiectau ar 22 Tachwedd 2022 a rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) ac Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Economi i wneud hynny. Roedd proses drwyadl yn cael ei wneud a oedd yn cynnwys dau gam er mwyn gwneud penderfyniad terfynol ar ddyrannu i brosiectau haeddiannol, cyfanswm o 23.
Roedd yr adroddiad yn darparu diweddariad ar ddyrannu cronfeydd CFfG i brosiectau a beth yw canlyniadau disgwyliedig y rhaglen ar gyfer cymunedau Sir y Fflint. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi argymhellion ar sut y dylid dyrannu cyllid CFfG wrth gefn sy’n codi, ac unrhyw gyllid heb ei ddyrannu yn ystod darparu’r rhaglen.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol ac roedd Aelodau ar y cyfan yn gefnogol o gynnwys yr adroddiad. Roedd yr atodiadau i’r adroddiad wedi nodi’r prosiectau llwyddiannus a byddai adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei gyflwyno unwaith bob chwe mis.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaed o ran datblygu rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhanbarthol ac yn lleol; a
(b) Bod y dull yr argymhellir i ddyrannu unrhyw arian wrth gefn o’r CFfG yn cael ei gymeradwyo a bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Economi i weithredu’r ymagwedd hynny ac i reoli newidiadau o fewn y prosiectau a gymeradwywyd.