Mater - cyfarfodydd

Flintshire County Summer Playscheme 2023

Cyfarfod: 19/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 32)

32 Cynllun Chwarae Gwyliau'r Haf Sir y Fflint 2023 pdf icon PDF 121 KB

Darparu adborth ar Gynllun Chwarae Haf Sir y Fflint 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint) adroddiad i roi adborth ar Gynllun Chwarae Gwyliau’r Haf Sir y Fflint 2023. 

 

            Rhoddodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) ddiweddariad manwl ar Gynllun Chwarae Gwyliau’r Haf 2023, gan nodi bod Sir y Fflint yn cynnig cyfanswm o 56 o leoliadau diogel ar gyfercynlluniau chwarae, ac mae’r cynlluniau hyn yn cael eu cynnal dros gyfnod o 3, 4, 5, neu 6 wythnos, yn dibynnu ar ofynion penodol y Cynghorau Tref a Chymuned. Cofrestrodd cyfanswm o 3,681 o blant ledled y sir ar gyfer y Cynlluniau Chwarae, gan arwain at gyfanswm o 11,907 o gofrestriadau dyddiol. Cynhaliwyd 1,200 o sesiynau chwarae, neu 8,000 o oriau o amser cyswllt. Roedd 69 o aelodau o staff wedi’u cyflogi ar gontractau tymor byr ar gyfer yr Haf a chawson nhw 5 diwrnod o hyfforddiant cyn cynnal y cynllun. Yn ogystal â'r ymrwymiad i fynd i’r afael â bod yn llwglyd dros y gwyliau, darparwyd 5,000 o boteli o dd?r a 3,000 o fariau byrbrydau.

 

Gwnaeth Cynlluniau Chwarae Gwyliau’r Haf eleni gyflwyno’r Gymraeg i weithgareddau chwarae ym mhob safle a oedd yn cyd-fynd â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir y Fflint. Yn ogystal â hyn, yr oedd o leiaf un aelod o staff a oedd yn siarad Cymraeg yn bresennol mewn 10 safle a oedd yn galluogi darpariaeth ehangach ar gyfer plant Cymraeg eu hiaith. Hefyd, yn ystod haf 2023, cofrestrodd 32 o blant ac unigolion ifanc ar y Cynllun Cyfeillio, gan roi mynediad iddynt i Gynllun Chwarae eu cymuned leol. Roedd y Cynllun Cyfeillio yn cefnogi cynhwysiant, hygyrchedd ac ymgysylltiad i bob plentyn, waeth beth fo'u gallu. Sicrhawyd y cyllid ar gyfer y Cynllun Cyfeillio trwy grant Teuluoedd yn Gyntaf.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) fod y Cynlluniau Chwarae yn cael eu cefnogi gan 30 o Gynghorau Tref a Chymuned a bod amrywiaeth o gynlluniau yn cael eu cynnig. Yn rhan o argymhelliad 3, sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad, cynigiwyd newid hwn naill ai’n gynllun 3 neu 6 wythnos. Byddai hyn yn helpu i reoli a staffio'r safleoedd, ac eglurwyd sut y gallai cael dau safle 3 wythnos fod o fudd i gymuned. Roedd yn anodd datblygu'r gwasanaeth ar hyn o bryd a chyfeiriodd at yr argymhelliad bod Cynghorau Tref a Chymuned yn ystyried y posibilrwydd i ymrwymo mewn egwyddor i gylch ariannu 3 blynedd a fyddai'n galluogi i ddarpariaeth ac amcanion hirdymor mewn cymunedau gael eu hystyried.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol (Datblygu Chwarae) hefyd fod Datblygiad Chwarae Sir y Fflint yn cynllunio dyfodol arloesol a chynaliadwy i ddarpariaeth ac ymrwymiad i blant yn Sir y Fflint. Gan ddefnyddio’r ddarpariaeth lwyddiannus yn ystod gwyliau’r haf fel patrwm, y nod oedd cynnig darpariaethau gwyliau yn ystod pob gwyliau ysgol. Amlinellwyd manteision yr ymrwymiad hwn yn yr adroddiad.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ryan McKeown faint o blant a oedd yn mynd i gynlluniau chwarae’r haf yn 2023 a oedd yn cael prydau ysgol am ddim, sut yr oedd hyn yn cymharu â blynyddoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 32