Mater - cyfarfodydd

Budget 2024/25 – Stage 2

Cyfarfod: 26/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 28)

28 Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd â’r nod o adolygu a gwneud sylwadau ar y pwysau ar y gyllideb a’r gostyngiadau mewn costau sy’n rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor.  Rhoddodd gyflwyniad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r broses o Osod Cyllideb 2024/25 a oedd yn rhoi sylw i’r materion canlynol:

 

  • pwrpas a chefndir
  • gofynion cyllidebol ychwanegol y Cyngor 2024/25
  • gofynion cyllidebol ychwanegol - risgiau parhaus
  • y sefyllfa gyffredinol ar ôl y datrysiadau cychwynnol
  • crynodeb a chasgliadau
  • y camau nesaf yn y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2024/25
  • Proses gosod y gyllideb - Cam 2
  • Proses gosod y gyllideb - Cam 3 (Terfynol).

 

Aeth yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu, Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig - Swyddog Arweiniol Oedolion, Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu a’r Prif Gyfrifydd (Gwasanaethau Cymdeithasol) ymlaen a’r cyflwyniad a oedd yn rhoi sylw i’r pwyntiau canlynol:

 

·         Pwysau  Costau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol; a

  • Gostyngiadau i Gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gofynnwyd i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu’n drylwyr bwysau costau portffolios, opsiynau effeithlonrwydd a’r risgiau cysylltiedig, a nodi unrhyw feysydd ychwanegol lle gellid o bosibl gwireddu effeithlonrwydd  costau.  Byddai crynodeb o ganlyniadau’r sesiynau hyn yn cael ei adrodd yn ôl i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Tachwedd, a fydd yn agored i bob Aelod.  Ar ôl derbyn y setliad dros dro ar 20 Rhagfyr, bydd yn ofynnol i gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu mis Ionawr ystyried y gostyngiadau cyllidebol pellach y bydd eu hangen i lenwi’r bwlch sy’n weddill yn y gyllideb os yw’r Cyngor am fodloni ei rwymedigaeth statudol i osod cyllideb gyfreithiol a mantoledig ym mis Chwefror 2024.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Linda Thew ynghylch nifer y plant sydd mewn lleoliadau y tu allan i’r sir  Eglurodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod y term ‘y tu allan i’r sir’ yn cyfeirio at y plant y mae’r awdurdod yn comisiynu gofal ar eu cyfer y tu allan i ddarpariaeth y sir ei hun.  Roedd nifer o blant yn byw mewn cartrefi gofal preswyl yn sir y Fflint sy’n cael eu dosbarthu fel bod yn cael gofal ‘y tu allan i’r sir’ oherwydd nad yw’r gefnogaeth ar eu cyfer yn cael ei darparu gan y sir ei hun.  Roedd 37 o blant ar hyn o bryd mewn gofal preswyl sydd ddim yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol ond yn hytrach yn cael ei gomisiynu.  Nid yw hyn yn golygu eu bod yn cael cefnogaeth y tu allan i ffin ddaearyddol Sir y Fflint.  Roedd yna hefyd 32 o blant yn cael eu cefnogi gan asiantaethau maethu annibynnol.  Mae’r gyllideb Y Tu Allan i’r Sir o safbwynt gofal cymdeithasol yn cefnogi 69 o blant bob wythnos gyda chosau costau addysgol ar ben hynny.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thew hefyd at gost y swyddi Uwch Weithwyr Cymdeithasol newydd a gofynnodd am ddadansoddiad o gyfrifoldebau’r rôl.  Mewn ymateb, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu at yr Adolygiad o Weithwyr Cymdeithasol a’r pwysau ychwanegol yr oedd hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 28